Traethau, Traethau...
Os yw'n well gennych chi dreulio'ch amser ar ryw draeth neu fae
bach diarffordd, bydd y ffaith eich bod wastad o fewn munudau i
draeth ar Arfordir Treftadaeth a Chefn Gwlad Morgannwg yn sicr o'ch
plesio. Mae gennym ddewis amrywiol o draethau gwyllt a gwefreiddiol
ar hyd ein 28 milltir o arfordir, gan gynnwys traeth 14 milltir y
dyfarnwyd statws Arfordir Treftadaeth iddo ym 1972.
Os ydych chi, fel llawer o'n hymwelwyr eraill, yn gyfarwydd â'ch
'swell' a'ch 'wipe-out' gallwch ddewis o blith traethau fel Sker
Bay, Pink Bay, Rest Bay a Southerndown sy'n baradwys i syrffwyr o
bedwar ban y byd. Mae'r tonnau'n wych ar gyfer arbenigwyr a
dechreuwyr, sy'n gallu dysgu'r sgiliau angenrheidiol yn un o'r
academïau syrffio lleol niferus.
Os yw'n well gennych wylio o bellter, efallai o lwybr yr
arfordir, gwisgwch eich esgidiau cerdded a darganfod clogwyni a
chreigiau anhygoel sy'n edrych dros sawl traeth diarffordd fel Bae
Dwnrhefn a Bae Tresilian - y mwyaf rhamantaidd o'r cwbl o bosibl
gyda'i ogof 'Bwa Ffawd'.
Profwch eich nerth a'ch dycnwch trwy gerdded ymhlith y twyni
tywod ym Merthyr Mawr, gan gynnwys un o'r twyni unigol mwyaf yn
Ewrop, a elwir y 'Big Dipper'! Beth am fynd â sled gyda chi i wneud
y daith yn ôl i lawr yn fwy o hwyl, neu dderbyn yr her o redeg i'w
gopa fel rhan o'r Ras Pwdin 'Dolig flynyddol!